1.   Diolch am y gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i roi trywydd ar gyfer strategaeth arfaethedig Llywodareth Cymru ar y Gymraeg.

2.   Mae ein hymateb i'r ymgynghoriad diweddar ar y strategaeth arfaethedig wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan[1]. Rydym yn croesawu'r cyfle i drafod ein safbwyntiau ar y cynigion ymhellach er mwyn helpu i lywio'r broses o ddatblygu strategaeth glir i gyflawni'r amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. 

3.   Er mwyn gwireddu'r targed uchelgeisiol o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd yn rhaid i'r strategaeth iaith Gymraeg fod wedi'i chynllunio'n ofalus a bydd rhaid sicrhau bod adnoddau digonol ar gael ar ei chyfer.  Bydd yn rhaid iddo fod yn brosiect cenedlaethol a bydd angen cyd-ddealltwriaeth a chydweithio o fewn ystod eang o sefydliadau, mudiadau a chyrff. Mae Cymwysterau Cymru yn croesawu'r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill er mwyn gwireddu gweledigaeth y strategaeth.

4.   Yma, byddwn yn rhoi ein safbwynt ar rai o'r prif heriau rydym yn credu y bydd angen i'r strategaeth ymdrin â hwy er mwyn gwireddu'r weledigaeth honno. 

Diwygio'r cwricwlwm a chymwysterau

5.   Fel y bydd y pwyllgor yn ymwybodol yn dilyn ein llythyr at Aelodau Cynulliad Cymru yn gynharach eleni[2], rydym wedi diwygio'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith i'w addysgu gyntaf o fis Medi 2017. Pan gaiff ei gyflwyno, bydd y ddarpariaeth cwrs llawn a chwrs byr presennol yn dod i ben.

6.   Bydd y cymhwyster newydd yn gwneud y canlynol:

-        cryfhau'r ffocws ar siarad a gwrando er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau Cymraeg bob dydd y bydd eu hangen arnynt ar gyfer y byd go iawn;

-        dileu'r ddibyniaeth ar eirfa a phynciau â diffiniad cul a all gyfyngu ar ddysgu a chyrhaeddiad yn yr iaith;

-        cadarnhau'r disgwyliad y dylai'r oriau addysgu fod yr un peth â chyrsiau TGAU eraill.

7.   Gwyddom eisoes o'n hymgysylltiad helaeth parhaus â rhanddeiliaid yn y maes hwn y bydd y newidiadau hyn yn gofyn am ddull gweithredu gwahanol i addysgu'r pwnc, a fydd yn her sylweddol i rai ysgolion. Pryder penodol y clywn amdano'n aml yw'r prinder athrawon sy'n gymwys ac sydd wedi'u hyfforddi'n ddigonol i addysgu'r pwnc. Fel y soniwyd gennym eisoes, rydym yn ystyried y newidiadau rydym wedi'u cyflwyno i'r cymhwyster hwn fel cam interim cychwynnol tuag at gael gwared â'r gwahaniaeth rhwng addysg a chymwysterau Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith. Ni ellir tanbrisio maint yr her o ran gwella sgiliau ac ehangu'r gweithlu addysg. 

8.   Cefnogwn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gael gwared â'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith fel rhan o'r diwygiadau i'r cwricwlwm, yn seiliedig ar gontinwwm sengl ar gyfer caffael a datblygu'r iaith Gymraeg. Credwn y bydd yn cynorthwyo dysgwyr i gyflawni eu llawn potensial. Bydd hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu addysg y dyfodol. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall dulliau asesu addas ar gyfer y cwricwlwm newydd. I ddatblygu ein syniadau mewn perthynas â chymwysterau, rydym wedi comisiynu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ymchwilio i sut y gellid datblygu continwwm caffael iaith i ategu prosesau addysgu a dysgu da a phrosesau asesu effeithiol. Rydym yn bwriadu comisiynu gwaith ymchwil pellach yn gynnar yn y flwyddyn newydd i edrych ar wahanol ddulliau gweithredu i fynegi'r continwwm fel y gallwn ystyried goblygiadau o ran asesu a chymwysterau. 

9.   Gwyddom mai un o'r ffactorau mwyaf allweddol sy'n cyfrannu at gaffael a dilyniant iaith llwyddiannus yw rhoi cynifer o gyfleoedd â phosibl i ddysgwyr glywed, gweld a defnyddio'r iaith. Mae hyn yn unol â'r weledigaeth a nodwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad 'Successful Futures’, sef i ddysgwyr ddatblygu eu hyfedredd mewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu ar y cyd â holl feysydd eraill y cwricwlwm.  

10.        Bydd caffael iaith yn effeithiol mewn ysgolion yn allweddol i gyflwyno'r strategaeth.  Cefnogwn amcan Llywodraeth Cymru o greu 'gweithlu â'r sgiliau perthnasol i addysgu a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg', gan fod angen gweithlu Cymraeg cymwys, o ansawdd uchel arnom.  Cam pwysig o’r cychwyn fydd i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth lawn o’r capasiti a’r gallu sydd eisoes yn bodoli mewn perthynas â sgiliau Cymraeg mewn ysgolion. Bydd angen i hyn fwrw rhaglen bendant o waith yn ei blaen i feithrin y capasiti a’r gallu hwnnw dros y blynyddoedd i ddod – bydd angen i hyn effeithio ar y cymhellion i ddod yn athro, hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon presennol. 

11.        Mae cyflwyno'r cymwysterau newydd ar gyfer Cymru yn unig a'r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi cyfle i ddatblygu darpariaeth sydd wedi'i theilwra i anghenion dysgwyr yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae’n cyflwyno her o ran sicrhau adnoddau addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Nodwyd gan ysgolion fod y diffyg adnoddau Cymraeg, yn benodol, sydd ar gael yn rhwystr wrth gyflwyno cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.  

12.        Mae cymwysterau a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru yn unig yn sylweddol llai atyniadol i gyhoeddwyr masnachol na rhai a gaiff eu hastudio ledled y tair gwlad.  O ganlyniad, mae'r adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru wedi lleihau.  Mae'r effaith yn waeth ar gyfer adnoddau cyfrwng Cymraeg. O ganlyniad, mae angen system fwy effeithiol ac effeithlon o ran ymateb y Llywodraeth er mwyn sicrhau na fydd dysgwyr yng Nghymru dan anfantais. Gellir gwireddu hyn drwy gynllunio'n ofalus a chydweithredu'n gynnar â rhanddeiliaid, yn cynnwys cyhoeddwyr a sefydliadau hyfforddi. Y wers bwysig a ddysgwyd o’r rhaglen bresennol ar gyfer diwygio cymwysterau TGAU a Safon Uwch yw bod rhaid i’r rhaglen newid ganiatáu digon o amser am ‘barodrwydd y system gyfan’ – nid yw hyn wedi bod yn bosibl yn y diwygiadau presennol oherwydd diwygiadau cyfochrog yn Lloegr.

Argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog 

13.        Cydnabyddwn bwysigrwydd ceisio ystod eang o gymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.  O ganlyniad, cynigiwn grant iaith Gymraeg i helpu cyrff dyfarnu i ymateb i'r galw am asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Ers hyrwyddo argaeledd y grant hwn, bu cynnydd nodedig yn y ceisiadau. Fodd bynnag, mae terfyn ar yr adnoddau

sydd gennym i drefnu bod y grantiau hyn ar gael a hefyd ymatebolrwydd y cyrff dyfarnu i’r ysgogiad ariannol. 

14.        Un o'r rhwystrau mwyaf sylweddol a nodwyd gan gyrff dyfarnu o ran darparu cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r diffyg staff sy'n gallu asesu cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg heb gyfieithiad, neu'r rhai sy'n teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny.  Rydym yn archwilio dulliau posibl i gyrff dyfarnu gysylltu ag unigolion a all ddarparu gwasanaethau asesu a sicrhau ansawdd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.  Fodd bynnag, datrysiad byr dymor yw hyn ac nid yw'n ymdrin â'r materion ehangach o ran y gweithlu.

15.        Edrychwn ymlaen at drafod y materion hyn ymhellach gyda’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr.

Yn ddiffuant
Ann Evans             Philip Blaker
Cadeirydd         Prif Weithredwr



[1] http://qualificationswales.org/publications/?lang=cy&category=Gohebiaeth

[2] http://qualificationswales.org/media/2064/llythyr-agored-i-ac-am-tgau-cai-cym.pdf